Isaiah 40:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear, a'i thrigolion sydd fel locustiaid; yr hwn a daena y nefoedd fel llen, ac a'i lleda fel pabell i drigo ynddi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fe ydy'r Un sy'n eistedd uwchben y ddaear, ac mae'r bobl sy'n byw arni fel ceiliogod rhedyn o'i flaen. Fe ydy'r Un sy'n taenu'r awyr fel llenni, ac yn ei lledu allan fel pabell i fyw ynddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae ef yn eistedd ar gromen y ddaear, a'i thrigolion yn ymddangos fel locustiaid. Y mae'n taenu'r nefoedd fel llen, ac yn ei lledu fel pabell i drigo ynddi.