Isaiah 40:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyrchefwch eich llygaid i fyny, ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn, a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi: efe a'u geilw hwynt oll wrth eu henwau; gan amlder ei rym ef, a'i gadarn allu, ni phalla un.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychwch i fyny ar y sêr! Pwy wnaeth eu creu nhw? Pwy sy'n eu galw nhw allan bob yn un? Pwy sy'n galw pob un wrth ei enw? Mae e mor gryf ac mor anhygoel o nerthol — does dim un ohonyn nhw ar goll.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Codwch eich llygaid i fyny; edrychwch, pwy a fu'n creu'r pethau hyn? Pwy a fu'n galw allan eu llu fesul un ac yn rhoi enw i bob un ohonynt? Gan faint ei nerth, a'i fod mor eithriadol gryf, nid oes yr un ar l.