Isaiah 40:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni wyddost, oni chlywaist, na ddiffygia ac na flina DUW tragwyddoldeb, yr ARGLWYDD, Creawdwr cyrrau y ddaear? ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wyt ti ddim yn gwybod? Wyt ti ddim wedi clywed? Yr ARGLWYDD ydy'r Duw tragwyddol! Fe sydd wedi creu y ddaear gyfan. Dydy ei nerth e ddim yn pallu; Dydy e byth yn blino. Mae e'n rhy ddoeth i unrhyw un ei ddeall!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oni wyddost, oni chlywaist? Duw tragwyddol yw'r ARGLWYDD a greodd gyrrau'r ddaear; ni ddiffygia ac ni flina, ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy.