Isaiah 40:31 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y rhai a obeithiant yn yr ARGLWYDD a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant; rhodiant, ac ni ddiffygiant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond bydd y rhai sy'n pwyso ar yr ARGLWYDD yn cael nerth newydd. Byddan nhw'n hedfan i fyny fel eryrod; yn rhedeg heb flino a cerdded ymlaen heb stopio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond y mae'r rhai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD yn adennill eu nerth; y maent yn magu adenydd fel eryr, yn rhedeg heb flino, ac yn rhodio heb ddiffygio.