Isaiah 40:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dring rhagot, yr efengyles Seion, i fynydd uchel; dyrchafa dy lef trwy nerth, O efengyles Jerwsalem: dyrchafa, nac ofna; dywed wrth ddinasoedd Jwda, Wele eich DUW chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da, dringa i ben mynydd uchel! Ie, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da, gwaedda'n uchel! Gwaedda! Paid bod ag ofn! Dywed wrth drefi Jwda: “Dyma'ch Duw chi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dring i fynydd uchel; ti, Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da, cod dy lais yn gryf; ti, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da, gwaedda, paid ag ofni. Dywed wrth ddinasoedd Jwda, "Dyma eich Duw chwi."