Isaiah 41:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, gosodaf di yn fen ddyrnu newydd ddanheddog; y mynyddoedd a ddyrni ac a feli, gosodi hefyd y bryniau fel mwlwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n dy wneud di yn llusg dyrnu — un newydd, hefo llawer iawn o ddannedd. Byddi'n dyrnu mynyddoedd a'u malu ac yn gwneud bryniau fel us.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn awr, fe'th wnaf yn fen-ddyrnu un newydd, ddanheddog a miniog; byddi'n dyrnu'r mynyddoedd a'u malu, ac yn gwneud y bryniau fel us.