Isaiah 41:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nithi hwynt, a'r gwynt a'u dwg ymaith, a'r corwynt a'u gwasgar hwynt: a thi a lawenychi yn yr ARGLWYDD, yn Sanct Israel y gorfoleddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddi'n eu nithio nhw, a bydd gwynt stormus yn eu chwythu i ffwrdd. Bydd corwynt yn eu gyrru ar chwâl. Ond byddi di yn llawenhau yn yr ARGLWYDD, Ac yn canu mawl i Un Sanctaidd Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddi'n eu nithio, a'r gwynt yn eu chwythu i ffwrdd, a'r dymestl yn eu gwasgaru. Ond byddi di'n llawenychu yn yr ARGLWYDD ac yn ymhyfrydu yn Sanct Israel.