Isaiah 41:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Agoraf afonydd ar leoedd uchel, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd: gwnaf y diffeithwch yn llyn dwfr, a'r crastir yn ffrydiau dyfroedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n gwneud i nentydd lifo ar y bryniau anial, ac yn agor ffynhonnau yn y dyffrynnoedd. Bydda i'n troi'r anialwch yn byllau dŵr, a'r tir sych yn ffynhonnau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Agoraf afonydd ar ben y moelydd, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd; gwnaf y diffeithwch yn llynnoedd, a'r crastir yn ffrydiau dyfroedd.