Isaiah 41:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy a gyfododd y cyfiawn o'r dwyrain, a'i galwodd at ei droed, a roddodd y cenhedloedd o'i flaen ef, ac a wnaeth iddo lywodraethu ar frenhinoedd? efe a'u rhoddodd hwynt fel llwch i'w gleddyf, ac fel sofl gwasgaredig i'w fwa ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pwy sydd wedi codi'r un o'r dwyrain? Pwy mae Cyfiawnder yn ei alw i'w ddilyn? Mae'n rhoi gwledydd iddo eu concro, ac i fwrw eu brenhinoedd i lawr. Mae ei gleddyf yn eu gwneud fel llwch, a'i fwa yn eu gyrru ar chwâl fel us.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Pwy sy'n codi un o'r dwyrain, a buddugoliaeth yn ei gyfarfod bob cam? Y mae'n bwrw cenhedloedd i lawr o'i flaen, ac yn darostwng brenhinoedd. Y mae'n eu gwneud fel llwch 'i gleddyf, fel us yn chwyrlo 'i fwa.