Isaiah 41:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dygant hwynt allan, a mynegant i ni y pethau a ddigwyddant: mynegwch y pethau gynt, beth ydynt, fel yr ystyriom, ac y gwypom eu diwedd hwynt; neu traethwch i ni y pethau a ddaw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dewch â'ch duwiau yma i ddweud wrthon ni beth sy'n mynd i ddigwydd. Beth am ddweud wrthon ni beth broffwydon nhw yn y gorffennol? — i ni allu penderfynu wrth weld y canlyniadau. Neu ddweud beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Bydded iddynt ddod a hysbysu i ni beth sydd i ddigwydd. Beth oedd y pethau cyntaf? Dywedwch, er mwyn inni eu hystyried, a gwybod eu canlyniadau; neu dywedwch wrthym y pethau sydd i ddod.