Isaiah 41:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y saer a gysurodd yr eurych, a'r morthwyliwr yr hwn oedd yn taro ar yr eingion, gan ddywedyd, Y mae yn barod i'w asio; ac efe a'i sicrhaodd â hoelion, fel nad ysgogir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r saer coed yn annog y gof aur, a'r un sy'n bwrw gyda'r morthwyl yn annog yr un sy'n taro'r einion. Mae'n canmol y gwaith sodro, “Mae'n dda!” ac yna'n ei hoelio'n saff, a dweud “Fydd hwnna ddim yn symud!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r crefftwr yn annog yr eurych, a'r un sy'n llyfnhau 'r morthwyl yn annog yr un sy'n taro ar yr eingion; y mae'n dyfarnu bod y sodro'n iawn, ac yn sicrhau'r ddelw hoelion rhag iddi symud.