Isaiah 41:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ti, yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac y'th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas wyt ti; dewisais di, ac ni'th wrthodais.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Des i â ti yma o bell, a'th alw o ben draw'r byd; a dweud wrthot ti: “Ti ydy fy ngwas i.” Dw i wedi dy ddewis di! Dw i ddim wedi troi cefn arnat ti!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dygais di o bellteroedd byd, a'th alw o'i eithafion, a dweud wrthyt, 'Fy ngwas wyt ti; 'rwyf wedi dy ddewis ac nid dy wrthod.'