Isaiah 42:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y diffeithwch a'i ddinasoedd, dyrchafant eu llef, y maestrefi a breswylia Cedar; caned preswylwyr y graig, bloeddiant o ben y mynyddoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Boed i'r anialwch a'i drefi godi eu lleisiau, a'r pentrefi ble mae crwydriaid Cedar yn byw. Canwch yn llawen, chi sy'n byw yn Sela, a gweiddi'n uchel o ben y mynyddoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydded i'r diffeithwch a'i ddinasoedd godi llef, y pentrefi lle mae Cedar yn trigo; bydded i drigolion Sela ganu a bloeddio o ben y mynyddoedd.