Isaiah 42:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ARGLWYDD a â allan fel cawr, fel rhyfelwr y cyffry eiddigedd; efe a waedda, ie, efe a rua; ac a fydd drech na'i elynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel milwr ar dân ac yn frwd i ymladd yn y rhyfel. Mae e'n gweiddi — yn wir, mae e'n rhuo wrth ymosod ar ei elynion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel arwr, fel rhyfelwr yn cyffroi mewn llid; y mae'n bloeddio, yn codi ei lais, ac yn trechu ei elynion.