Isaiah 42:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Arweiniaf y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuant; a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau nid adnabuant; gwnaf dywyllwch yn oleuni o'u blaen hwynt, a'r pethau ceimion yn union. Dyma y pethau a wnaf iddynt, ac nis gadawaf hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i arwain y rhai sy'n ddall ar hyd ffordd sy'n newydd, a gwneud iddyn nhw gerdded ar hyd llwybrau sy'n ddieithr iddyn nhw. Bydda i'n gwneud y tywyllwch yn olau o'u blaen ac yn gwneud y tir anwastad yn llyfn. Dyma dw i'n addo ei wneud — a dw i'n cadw fy ngair.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna arweiniaf y deillion ar hyd ffordd ddieithr, a'u tywys mewn llwybrau nad adnabuant; paraf i'r tywyllwch fod yn oleuni o'u blaen, ac unionaf ffyrdd troellog. Dyma a wnaf iddynt, ac ni adawaf hwy.