Isaiah 42:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni phalla efe, ac ni ddigalonna, hyd oni osodo farn ar y ddaear; yr ynysoedd hefyd a ddisgwyliant am ei gyfraith ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd e ddim yn methu nac yn anobeithio nes iddo sefydlu'r ffordd iawn ar y ddaear. Mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei ddysgeidiaeth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni fydd yn diffodd, ac ni chaiff ei ddryllio, nes iddo osod barn ar y ddaear; y mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei gyfraith."