Isaiah 43:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr awr hon fel hyn y dywed yr ARGLWYDD dy Greawdwr di, Jacob, a'th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canys gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nawr, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — yr un wnaeth dy greu di, Jacob, a rhoi siâp i ti, Israel: “Paid bod ag ofn! Dw i wedi dy ollwng di'n rhydd! Dw i wedi dy alw wrth dy enw! Fi piau ti!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD a'th greodd, Jacob, ac a'th luniodd, Israel: "Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di; galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt.