Isaiah 43:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi a fynegais, ac a achubais, ac a ddangosais, pryd nad oedd duw dieithr yn eich mysg: am hynny chwi ydych fy nhystion, medd yr ARGLWYDD, mai myfi sydd DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fi wnaeth ddweud ymlaen llaw, fi wnaeth achub, fi wnaeth ei gyhoeddi, dim rhyw dduw dieithr — a dych chi'n dystion o'r peth.” —meddai'r ARGLWYDD— “Fi ydy'r unig Dduw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Myfi a fu'n mynegi, yn achub ac yn cyhoeddi, pan nad oedd duw dieithr yn eich plith; ac yr ydych chwi'n dystion i mi," medd yr ARGLWYDD, "mai myfi yw Duw.