Isaiah 43:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni ddygaist i mi filod dy offrymau poeth, ac ni'm hanrhydeddaist â'th ebyrth: ni pherais i ti fy ngwasanaethu ag offrwm, ac ni'th flinais ag arogl‐darth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwyt ti ddim wedi dod â dafad yn offrwm i'w losgi i mi, nac wedi fy anrhydeddu gydag aberthau. Dw i ddim wedi pwyso arnat ti am offrwm o rawn, na dy boeni di am yr arogldarth o thus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni ddygaist i mi ddafad yn boethoffrwm, na'm hanrhydeddu 'th ebyrth; ni roddais faich bwydoffrwm arnat, na'th flino am arogldarth.