Isaiah 43:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Casgler yr holl genhedloedd ynghyd, a chynuller y bobloedd; pwy yn eu mysg a fynega hyn, ac a draetha i ni y pethau o'r blaen? dygant eu tystion, fel y cyfiawnhaer hwynt; neu wrandawant, a dywedant, Gwir yw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r cenhedloedd i gyd wedi dod at ei gilydd, a gwledydd y byd wedi ymgasglu. Pa un o'u duwiau nhw ddwedodd am hyn, a dweud ymlaen llaw am beth sydd wedi digwydd? Gadewch iddyn nhw alw tystion i brofi eu hunain, er mwyn i bobl eu clywed, a dweud, ‘Mae'n wir!’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r holl bobl wedi eu casglu ynghyd, a'r bobloedd wedi eu cynnull. Pwy yn eu plith a fynega hyn, a chyhoeddi i ni y pethau gynt? Gadewch iddynt alw tystion i brofi'r achos, a gwrando, a dyfarnu ei fod yn wir.