Isaiah 44:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a dyr iddo gedrwydd, ac a gymer y gypreswydden a'r dderwen, ac a ymegnïa ymysg prennau y coed; efe a blanna onnen, a'r glaw a'i maetha.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n torri coed cedrwydd; mae'n dewis coeden gypres neu dderwen sydd wedi tyfu'n gryf yng nghanol y goedwig. Mae'n plannu coed pinwydd, ac mae'r glaw yn gwneud iddyn nhw dyfu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae rhywun yn torri iddo'i hun gedrwydden, neu'n dewis cypreswydden neu dderwen wedi tyfu'n gryf yng nghanol y goedwig cedrwydden wedi ei phlannu, a'r glaw wedi ei chryfhau.