Isaiah 44:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ie, ni feddwl neb yn ei galon, ie, nid oes wybodaeth na deall i ddywedyd, Llosgais ran ohono yn tân, ac ar ei farwor y pobais fara, y rhostiais gig, ac y bwyteais; ac a wnaf fi y rhan arall yn ffieiddbeth? a ymgrymaf i foncyff o bren?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn nhw ddim yn meddwl am funud, dŷn nhw'n gwybod nac yn deall dim: ‘Dw i wedi llosgi ei hanner yn y tân; wedi pobi bara arno, a rhostio cig i'w fwyta — yna gwneud y gweddill yn eilun ffiaidd! Dw i'n plygu i lawr i ddarn o bren!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yw neb wedi troi'r peth yn ei feddwl, nac yn gwybod nac yn deall, i ddweud, "Llosgais hanner yn dn, a chrasu bara yn y marwor; rhostiais gig a'i fwyta; ac o'r gweddill 'rwy'n gwneud ffieiddbeth, ac yn ymgrymu i ddarn o bren."