Isaiah 44:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymborth ar ludw y mae; calon siomedig a'i gwyrdrôdd ef, fel na waredo ei enaid, ac na ddywedo, Onid oes celwydd yn fy neheulaw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae e'n bwyta lludw! Mae ei feddwl wedi mynd ar gyfeiliorn! Mae'n methu achub ei hun na dod rownd i gyfaddef, ‘Twyll ydy'r peth sydd yn fy llaw i!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir y mae'n ymborthi ar ludw, a'i feddwl crwydredig wedi ei yrru ar gyfeiliorn; ni all ei waredu ei hun a dweud, "Onid twyll yw'r hyn sydd yn fy llaw?"