Isaiah 44:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cenwch, nefoedd: canys yr ARGLWYDD a wnaeth hyn: bloeddiwch, gwaelodion y ddaear; bloeddiwch ganu, fynyddoedd, y coed a phob pren ynddo: canys gwaredodd yr ARGLWYDD Jacob, ac yn Israel yr ymogonedda efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Canwch fawl, nefoedd, achos mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud! Gwaeddwch yn uchel, ddyfnderoedd y ddaear! Bloeddiwch, fynyddoedd, a'r fforestydd a'u holl goed! Achos mae'r ARGLWYDD wedi rhyddhau Jacob, ac wedi dangos ei ysblander yn Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Canwch, nefoedd, oherwydd yr ARGLWYDD a wnaeth hyn; gwaeddwch, ddyfnderoedd daear; bloeddiwch, O fynyddoedd, a'r goedwig a phob coeden o'i mewn; y mae'r ARGLWYDD wedi gwaredu Jacob, a chael gogoniant yn Israel.