Isaiah 44:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD dy Waredydd, a'r hwn a'th luniodd o'r groth, Myfi yw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur pob peth, yn estyn y nefoedd fy hunan, yn lledu y ddaear ohonof fy hun:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — yr un sy'n dy ryddhau di; yr un wnaeth dy siapio di yn y groth: “Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi gwneud y cwbl: fi fy hun wnaeth daenu'r awyr, a lledu'r ddaear ar fy mhen fy hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, dy waredydd, a'r hwn a'th luniodd o'r groth: "Myfi, yr ARGLWYDD, a wnaeth y cyfan estyn y nefoedd fy hunan, a lledu'r ddaear heb neb gyda mi;