Isaiah 44:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn a gyflawna air ei was, ac a gwblha gyngor ei genhadon; yr hwn a ddywed wrth Jerwsalem, Ti a breswylir; ac wrth ddinasoedd Jwda, Chwi a adeiledir, a chyfodaf ei hadwyau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n cadarnhau'r hyn mae fy ngwas yn ei ddweud, ac yn gwneud beth mae ei negeswyr yn ei gynghori. Dw i'n dweud wrth Jerwsalem, ‘Bydd pobl yn byw ynot ti,’ ac wrth bentrefi Jwda, ‘Byddwch yn cael eich adeiladu; dw i'n mynd i ailgodi'r adfeilion.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
cadarnhau gair ei was, a chyflawni cyngor ei genhadon; dweud wrth Jerwsalem, 'Fe'th breswylir', ac wrth ddinasoedd Jwda, 'Fe'ch adeiledir cyfodaf drachefn eich adfeilion';