Isaiah 44:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn wyf yn dywedyd wrth Cyrus, Fy mugail yw, ac efe a gyflawna fy holl ewyllys: gan ddywedyd wrth Jerwsalem, Ti a adeiledir; ac wrth y deml, Ti a sylfaenir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A fi hefyd sy'n dweud wrth Cyrus, ‘Fy mugail wyt ti.’ Bydd e'n gwneud beth dw i eisiau! Bydd yn dweud wrth Jerwsalem, ‘Cei dy adeiladu eto,’ ac wrth y Deml: ‘Cei dy ail-sefydlu.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dweud wrth Cyrus, 'Fy Mugail', ac fe gyflawna fy holl fwriad; dweud wrth Jerwsalem, 'Fe'th adeiledir', ac wrth y deml, 'Fe'th sylfaenir'."