Isaiah 44:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedig; ni wna eu pethau dymunol lesâd: tystion ydynt iddynt eu hun, na welant, ac na wyddant; fel y byddo cywilydd arnynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r rhai sy'n gwneud eilunod yn gwastraffu eu hamser. Dydy'r pethau maen nhw mor hoff ohonyn nhw yn dda i ddim! A dydy'r rhai sy'n tystio iddyn nhw ddim yn gweld! Dŷn nhw'n gwybod dim — ac felly maen nhw'n cael eu cywilyddio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae pawb sy'n gwneud eilunod yn ddiddim, ac nid oes lles yng ngwrthrych eu serch; y mae eu tystion heb weld a heb wybod, ac o'r herwydd fe'u cywilyddir.