Isaiah 45:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth ei eneiniog, wrth Cyrus, yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw, i ddarostwng cenhedloedd o'i flaen ef: a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o'i flaen ef; a'r pyrth ni chaeir:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Cyrus, yr un mae wedi ei eneinio; yr un mae wedi gafael yn ei law, iddo sathru gwledydd o'i flaen a diarfogi brenhinoedd. Yr un mae wedi agor drysau iddo heb adael unrhyw giât ar gau:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma a ddywed yr ARGLWYDD wrth Cyrus ei eneiniog, yr un y gafaelais yn ei law i ddarostwng cenhedloedd o'i flaen, i ddiarfogi brenhinoedd, i agor dorau o'i flaen, ac ni chaeir pyrth rhagddo: