Isaiah 45:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sanct Israel, a'i Luniwr, Gofynnwch i mi y pethau a ddaw am fy meibion, a gorchmynnwch fi am waith fy nwylo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — Un Sanctaidd Israel wnaeth ei siapio: “Dych chi'n fy holi am ddyfodol fy mhlant? Dych chi am ddweud wrtho i beth i'w wneud?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sanct Israel a'i luniwr: "A ydych yn fy holi i am fy mhlant, ac yn gorchymyn imi am waith fy nwylo?