Isaiah 45:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi a wneuthum y ddaear, ac a greais ddyn arni: myfi, ie, fy nwylo i a estynasant y nefoedd, ac a orchmynnais eu holl luoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fi wnaeth y ddaear, a chreu y ddynoliaeth arni. Fi fy hun wnaeth ledu'r awyr, a rhoi trefn ar y sêr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Myfi a wnaeth y ddaear, a chreu pobl arni; fy llaw i a estynnodd y nefoedd, a threfnu ei holl lu.