Isaiah 45:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi a'i cyfodais ef mewn cyfiawnder, a'i holl ffyrdd a gyfarwyddaf; efe a adeilada fy ninas, efe a ollwng fy ngharcharorion, heb na gwerth na gobrwy, medd ARGLWYDD y lluoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A fi sydd wedi codi Cyrus i achub ac wedi gwneud y ffordd o'i flaen yn rhwydd. Bydd e'n ailadeiladu fy ninas i, ac yn gollwng fy mhobl gafodd eu caethgludo yn rhydd heb unrhyw dâl na gwobr,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Myfi a gododd Cyrus i fuddugoliaeth, ac unioni ei holl lwybrau. Ef fydd yn codi fy ninas, ac yn gollwng fy nghaethion yn rhydd, ond nid am bris nac am wobr," medd ARGLWYDD y Lluoedd.