Isaiah 45:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Creawdydd y nefoedd, y DUW ei hun a luniodd y ddaear, ac a'i gwnaeth; efe a'i sicrhaodd hi, ni chreodd hi yn ofer, i'w phreswylio y lluniodd hi: Myfi yw yr ARGLWYDD, ac nid neb amgen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, sef Crëwr y nefoedd! Yr unig Dduw! Yr un wnaeth y ddaear, ei siapio a'i gosod yn ei lle — nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni: “Fi ydy'r ARGLWYDD, does dim un arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, creawdwr y nefoedd, yr un sy'n Dduw, lluniwr y ddaear a'i gwneuthurwr, yr un a'i sefydlodd, yr un a'i creodd, nid i fod yn afluniaidd, ond a'i ffurfiodd i'w phreswylio: "Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall;