Isaiah 45:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni leferais mewn dirgelwch, mewn man tywyll o'r ddaear; ni ddywedais wrth had Jacob, Ceisiwch fi yn ofer. Myfi yr ARGLWYDD wyf yn llefaru cyfiawnder, ac yn mynegi pethau uniawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol, mewn rhyw le tywyll. Wnes i ddim dweud wrth blant Jacob, ‘Edrychwch amdana i i ddim pwrpas’ — Dw i, yr ARGLWYDD, yn dweud beth sy'n iawn, ac yn dweud y gwir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
nid mewn dirgelwch y lleferais, nid mewn man tywyll o'r ddaear; ni ddywedais wrth feibion Jacob, 'Ceisiwch fi mewn anhrefn.' Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r un sy'n llefaru cyfiawnder, ac yn mynegi uniondeb.