Isaiah 45:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mynegwch, a nesewch hwynt; cydymgynghorant hefyd; pwy a draethodd hyn er cynt? pwy a'i mynegodd er y pryd hwnnw? onid myfi yr ARGLWYDD? ac nid oes DUW arall ond myfi; yn DDUW cyfiawn, ac yn achubydd; nid oes ond myfi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cyflwynwch eich tystiolaeth — gadewch iddyn nhw drafod gyda'i gilydd! Pwy ddwedodd am hyn ymlaen llaw? Pwy soniodd am y peth o'r dechrau? Onid fi, yr ARGLWYDD? Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi! Fi ydy'r Duw cyfiawn sy'n achub — does dim un arall!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dewch ymlaen, cyflwynwch eich achos; boed iddynt gymryd cyngor ynghyd. Pwy a fynegodd hyn o'r blaen? Pwy a'i dywedodd o'r dechrau? Onid myfi, yr ARGLWYDD? Nid oes Duw ond myfi, Duw cyfiawn, a gwaredydd. Nid oes neb ond myfi.