Isaiah 45:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o'm genau mewn cyfiawnder, ac ni ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi mynd ar fy llw, dw i'n dweud y gwir, fydda i'n cymryd dim yn ôl: ‘Bydd pob glin yn plygu i mi, a phob tafod yn tyngu i mi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar fy llw y tyngais; gwir a ddaeth allan o'm genau, gair na ddychwel: i mi bydd pob glin yn plygu a phob tafod yn tyngu.