Isaiah 45:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ddiau yn yr ARGLWYDD, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth; ato ef y deuir; a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n dweud: “Ydy, mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn a chryf!”’” Bydd y rhai gododd yn ei erbyn yn troi ato mewn cywilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe ddywedir amdanaf, 'Yn ddiau, yn yr ARGLWYDD y mae cyfiawnder a nerth'." Bydd pob un a ddigiodd wrtho yn dod ato ef mewn cywilydd.