Isaiah 45:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig, a chuddfeydd dirgel, fel y gwypech mai myfi yr ARGLWYDD, yr hwn a'th alwodd erbyn dy enw, yw DUW Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i roi i ti drysorau sydd yn y tywyllwch, stôr o gyfoeth wedi ei guddio o'r golwg — er mwyn i ti wybod mai fi, yr ARGLWYDD, Duw Israel, sydd wedi dy alw di wrth dy enw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhof iti drysorau o leoedd tywyll, wedi eu cronni mewn mannau dirgel, er mwyn iti wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Israel, sy'n dy gyfarch wrth dy enw.