Isaiah 46:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn mynegi y diwedd o'r dechreuad, ac er cynt yr hyn ni wnaed eto, yn dywedyd, Fy nghyngor a saif, a'm holl ewyllys a wnaf:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n dweud o'r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd, ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto. Dw i'n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd; Dw i'n cyflawni popeth dw i'n ei fwriadu.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Rwyf o'r dechreuad yn mynegi'r diwedd, ac o'r cychwyn yr hyn oedd heb ei wneud. Dywedaf, 'Fe saif fy nghyngor, a chyflawnaf fy holl fwriad.'