Isaiah 46:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Neseais fy nghyfiawnder; ni bydd bell, a'm hiachawdwriaeth nid erys: rhoddaf hefyd iachawdwriaeth yn Seion i'm gogoniant Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn; dydy hyn ddim yn y dyfodol pell — fydd achubiaeth ddim yn cael ei ohirio. Dw i'n mynd i achub Seion! A rhoi fy ysblander i Israel!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Paraf i'm cyfiawnder nesu; nid yw'n bell, ac nid oeda fy iachawdwriaeth. Rhof iachawdwriaeth yn Seion, a'm gogoniant i Israel.