Isaiah 47:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Disgyn, ac eistedd yn y llwch, ti forwynferch Babilon, eistedd ar lawr: nid oes orseddfainc, ti ferch y Caldeaid; canys ni'th alwant mwy yn dyner ac yn foethus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“I lawr â ti! Eistedd yn y llwch, o wyryf, ferch Babilon. Eistedd ar lawr ferch y Babiloniaid, mae dy ddyddiau ar yr orsedd wedi darfod. Gei di ddim dy alw yn dyner ac yn dlos byth eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Disgyn, ac eistedd yn y lludw, ti, ferch wyry Babilon. Eistedd ar y llawr yn ddiorsedd, ti, ferch y Caldeaid; ni'th elwir byth eto yn dyner a moethus.