Isaiah 47:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y daw arnat ddrygfyd, yr hwn ni chei wybod ei gyfodiad; a syrth arnat ddinistr nis gelli ei ochelyd: ie, daw arnat ddistryw yn ddisymwth, heb wybod i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae dinistr yn dod, a fydd dy holl swynion ddim yn ei gadw draw. Mae trychineb ar fin disgyn, a fyddi di ddim yn gallu ei droi i ffwrdd. Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnat heb yn wybod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond fe ddaw arnat ti ddinistr na wyddost sut i'w swyno; fe ddisgyn arnat ddistryw na elli mo'i ochelyd. Daw trychineb arnat yn sydyn, heb yn wybod iti.