Isaiah 47:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Digiais wrth fy mhobl, halogais fy etifeddiaeth, a rhoddais hwynt yn dy law di: ni chymeraist drugaredd arnynt; rhoddaist dy iau yn drom iawn ar yr henuriaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddwn wedi digio gyda'm pobl, felly cosbais fy etifeddiaeth; rhoddais nhw yn dy ddwylo di, ond wnest ti ddangos dim trugaredd atyn nhw. Roeddet ti hyd yn oed yn cam-drin pobl mewn oed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Digiais wrth fy mhobl, halogais fy etifeddiaeth, rhoddais hwy yn dy law; ond ni chymeraist drugaredd arnynt, gwnaethost yr iau yn drwm ar yr oedrannus.