Isaiah 47:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y ddau beth hyn a ddaw i ti yn ddisymwth yr un dydd, diepiledd a gweddwdod: yn gwbl y deuant arnat, am amlder dy hudoliaethau, a mawr nerth dy swynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yn sydyn bydd y ddau beth yn digwydd ar yr un diwrnod: colli dy blant a chael dy hun yn weddw. Byddi'n cael dy lethu'n llwyr ganddyn nhw, er gwaetha dy holl ddewino a'th swynion gorau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe ddaw'r ddau beth hyn arnat ar unwaith, yr un diwrnod colli plant a gweddwdod, a'r ddau'n dod arnat yn llawn, er bod dy hudoliaeth yn aml a'th swynion yn nerthol.