Isaiah 48:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymgesglwch oll, a gwrandewch; pwy ohonynt hwy a fynegodd hyn? Yr ARGLWYDD a'i hoffodd; efe a wna ei ewyllys ar Babilon, a'i fraich a fydd ar y Caldeaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Dewch at eich gilydd i gyd, a gwrando! Pa un o'ch duwiau ddwedodd am y pethau yma? — y bydd ffrind yr ARGLWYDD yn cyflawni ei fwriad yn erbyn Babilon, ac yn defnyddio'i holl nerth yn erbyn pobl Caldea.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dewch bawb at eich gilydd a gwrando; pwy ohonynt a fynegodd hyn? Yr un y mae'r ARGLWYDD yn ei hoffi fydd yn cyflawni ei fwriad ar Fabilon ac ar had y Caldeaid.