Isaiah 48:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys hwy a'u galwant eu hunain o'r ddinas sanctaidd, ac a bwysant ar DDUW Israel; enw yr hwn yw ARGLWYDD y lluoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Maen nhw'n galw eu hunain yn ‛bobl y ddinas sanctaidd‛, ac yn honni pwyso ar Dduw Israel, sef yr ARGLWYDD holl-bwerus):
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwant eu hunain yn bobl y ddinas sanctaidd, a phwyso ar Dduw Israel; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.