Isaiah 48:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ewch allan o Babilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid, â llef gorfoledd mynegwch ac adroddwch hyn, traethwch ef hyd eithafoedd y ddaear; dywedwch, Gwaredodd yr ARGLWYDD ei was Jacob.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ewch allan ar frys o Babilon! Dianc oddi wrth bobl Caldea! Dwedwch beth sy'n digwydd a gweiddi'n llawen. Cyhoeddwch y peth! Anfonwch y neges i ben draw'r byd! Dwedwch: ‘Mae'r ARGLWYDD wedi gollwng ei was Jacob yn rhydd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ewch allan o Fabilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid; mynegwch hyn gyda bloedd gorfoledd, cyhoeddwch ef, a'i hysbysu hyd gyrrau'r ddaear; dywedwch, "Yr ARGLWYDD a waredodd ei was Jacob."