Isaiah 49:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwrandewch arnaf, ynysoedd; ac ystyriwch, bobl o bell; Yr ARGLWYDD a'm galwodd o'r groth; o ymysgaroedd fy mam y gwnaeth goffa am fy enw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwrandwch arna i, ynysoedd! Daliwch sylw, chi bobloedd o bell: Galwodd yr ARGLWYDD fi cyn i mi gael fy ngeni, Rhoddodd fy enw i mi pan oeddwn i'n dal yng nghroth fy mam.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwrandewch arnaf, chwi ynysoedd, rhowch sylw, chwi bobl o bell. Galwodd yr ARGLWYDD fi o'r groth; o fru fy mam fe'm henwodd.