Isaiah 49:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys dy ddiffeithwch a'th anialwch, a'th dir dinistriol, yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng gan breswylwyr; a'r rhai a'th lyncant a ymbellhânt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er dy fod wedi dy daro, dy ddifetha a dy ddinistrio fel gwlad, bellach fydd dim digon o le i bawb sydd am fyw ynot ti, a bydd y rhai wnaeth dy ddinistrio yn bell i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd dy ddiffeithwch a'th anialwch a'th dir anrhaith yn rhy gyfyng bellach i'th breswylwyr, gan fod dy ddifodwyr ymhell i ffwrdd.