Isaiah 49:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gosododd hefyd fy ngenau fel cleddyf llym, yng nghysgod ei law y'm cuddiodd; a gwnaeth fi yn saeth loyw, cuddiodd fi yn ei gawell saethau;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnaeth fy ngheg fel cleddyf miniog, a chuddiodd fi dan gysgod ei law. Gwnaeth fi fel saeth loyw; a chuddiodd fi yn ei gawell.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth fy ngenau fel cleddyf llym, a'm cadw yng nghysgod ei law; gwnaeth fi yn saeth loyw, a'm cuddio yng nghawell ei saethau.